Hanes Dyffryn Nantlle

Talysarn

 
 
 

Prosiect Ysgol Talysarn ~ Awst 2005

Bu plant Ysgol Talysarn yn gweithio gyda’r artist Luned Rhys Parri i greu murlun anferth o fywyd eu bro.

Cafodd y gwaith ei arddangos yn stondin y Cyngor Cefn Gwlad Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd yn yr Eisteddfod Gendalethol ar Stâd y Faenol yn Y Felinheli, ger Bangor yng Ngwynedd.

Y murlun a gafodd ei greu gan ddisgyblion Ysgol Talysarn a'r artist Luned Rhys Parri

Defnyddiwyd ‘papier mache’ i greu modelau 3D i ddehongli’r fro, y diwydiant llechi, tai teras yr hen chwarelwyr, a threftadaeth yr ardal drwy edrych ar farddoniaeth R. Williams Parry.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gyngor Cefn Gwlad â’r Eisteddfod Genedlaethol yn cefnogi cynllun Cymunedau’n Gyntaf y Cynulliad yn yr ardal.

Mae’r murlun wedi cael ei ddychwelyd erbyn hyn yn ôl i’r ysgol a mae pobl yr ardal yn gobeithio gwneud cais am grant i ail-greu gwaith y plant ar dalcen estyniad newydd Canolfan Gymunedol Talysarn.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys