Enwogion Llanllyfni
R. Silyn Roberts ~
1871-1930
Ganed ym Mryn Llidiart (adfail erbyn hyn) ar ochr
Craig Cwm Dulyn. Bardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol
Cymru, 1902. Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Trystan
ac Estyllt a Chaniadau Eraill, ac wedi ei farw cyhoeddwyd
ail gyfrol - Cyfarwydd.
Chwarelwr ydoedd i ddechrau yna aeth yn fyfyriwr
i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Sefydlodd
Gangen Gogledd Cymru Cymdeithas
Addysg y Gweithwyr (WEA) yn 1925 a bu’n Sosialydd
blaenllaw.
»» Ychydig yn rhagor am R. Silyn Roberts
Mathonwy Hughes ~ 1901-99
Nai i R. Silyn Roberts a mab i chwarelwr.
Fe’i
ganed yntau ym Mryn Llidiart. Bardd a newyddiadurwr.
Bardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberdâr,
1956. Cyhoeddodd nifer o lyfrau a bu’n is-olygydd
Y Faner am dros chwarter canrif.
»» Rhagor
o hanes Mathonwy Hughes
R. Alun Roberts
Ganed yng Nglan-y-gors, eto ar Graig Cwm Dulyn.
Ysgolhaig nodedig ac arbenigwr ar wella tir pori’r ucheldir
ac ar fridio anifeiliaid. Roedd hefyd yn naturiaethwr
enwog. Bu’n aelod o’r Rhaglen Byd Natur
ar y radio am flynyddoedd maith.
Robert Jones
~ 1806-1896
Pregethwr gwreiddiol ac enwog. Trodd ei gefn
ar y Methodistiaid ac ymuno â’r Bedyddwyr a
throi’n wrthwynebydd mawr i fedydd babanod. Cyfansoddodd
dros fil o emynau. Yr enwocaf yw "O! cenwch fawl
i’r Arglwydd".
»» Rhagor o hanes Robert Jones |