Cylchdeithiau Nebo a
Nasareth ~ Teithiau a
awgrymir a Map
Llefydd o Ddiddordeb
Cliciwch y rhifau sydd ar y map am fwy o wybodaeth
am y lleoliad hwnnw,
neu gallwch weld y disgrifiadau sy'n dilyn.
1. Capel
Nasareth - Annibynwyr (sefydlwyd yn 1823 ac ail-adeiladwyd
yn 1867). Siop a Swyddfa'r Post Nasareth.
2. Glanyrafon.
3. Ffordd
Pant y Gôg
4. Nebo - Ysgol (agorwyd 1873), Ystafell
Gymuned, Hen Bost, maes chwarae, safle Capel
Nebo (1861 - 1981).
5. Ffynnon
ganol-oesol - rhestrwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol
Gwynedd.
6. Hafod yr Esgob - Tŷ Dr
David Jones 1779 -1839 (Yr Hen Ddoctor Mynydd)
a gyhoeddodd ei lyfr enwog 'Llysieulyfr Teuluaidd
Jones Llanllyfni'.
7. Golygfa ardderchog dros Ddinas
Dinlle, Ynys Môn, Ynys Llanddwyn a Chaergybi.
8. Eisteddfa Isaf - bwthyn wedi'i
gofrestru (Gradd 2). Saif Eisteddfa
Rhedyw gerllaw, ymhlith y Cerrig Mawr lle, yn ôl
y traddodiad, y bu nawddsant
Plwyf Llanllyfni yn byw yn y bedwaredd ganrif.
Gwelir hefyd, olion yr hen felin lifio.
9. Pant y Gôg - adfail ar waelod
yr allt serth sy'n arwain at y mast.
10. Cors
y Llyn - Rhan olaf o'r tir comin, lle arferai'r
trigolion fawna a phori eu hanifeiliaid. Safle o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
11. Llyn Cwm Dulyn - ffurfiwyd wedi
Oes yr Iâ olaf, mae wedi bod yn gronfa ddŵr
i Ddyffryn Nantlle ers y 1890au. Un o lynnoedd Eryri
lle ceir y torgoch,sydd wedi goroesi yno ers Oes yr
Iâ. Ar yr ochr ogleddol – Braich y Llyn
- ceir olion o ddau 'meifod' neu 'hafod' canoloesol
- cytiau lle trigai'r bugeiliaid o Galan Mai i Galan
Gaeaf efo'u praidd.
12. Rhos-las -
'clytwaith o gaeau a hafodydd brithion'. Gwelir nifer
fawr o furddunod neu dai wedi eu hadnewyddu'n llwyr,
lle trigai cymdeithas o dyddynwyr a chwarelwyr. Diboblogwyd
yr ardal pan gaewyd y chwareli yn ystod hanner cyntaf
yr 20 ganrif. (Gweler rhagor o wybodaeth am Deuluoedd Rhoslas a Thyddynod Rhoslas.)
13. Pont Lloc - ceir maen hir mewn
cae cyfagos.
14. 'Ffordd
y Fawnfa Gyhoeddus' - y brif ffordd ddefnyddiwyd
gan drigolion Llanllyfni i nôl mawn a choed
o'r tir comin. Yn nhŷ fferm Buarthau, cyfarfyddai'r
Methodistiaid cynnar 1763 - 1812, ond mewn cyfnod
cynharach byddai'r trigolion lleol yn arfer cyfarfod
yn un o'r caeau ar y Suliau a byddai 'Gwen y Canu',
yr hen wrach, yn dod yno i felltithio'r sawl a fynnai'r
gwasanaeth hwnnw
15. Llanllyfni - Eglwys
Sant Rhedyw (sydd yn dyddio'n ôl i'r bedwaredd
ganrif), Hen ffynnon y pentre', Tafarn y Chwarelwr.
16. Ysgol Llanllyfni (1862) Mynwent
y Bedyddwyr Albanaidd ('Bara Caws'). Capel Salem
(Presbyteraidd).
17. Mynwent
Gorffwysfa, (Hendre Forion).
18. Hen Dyrpeg -
ewch dros y bont fach newydd, lle roedd y Bont Rufeinig
a ddinistrwyd gan y llifogydd mawr 1935.
19. Capel Bach -
ysgoldy cyntaf y Methodistiaid ar Fynydd Llanllyfni
- adeiladwyd yn 1826. Sefydlwyd fel eglwys yn 1843.
20. Golygfa wych o'r Dyffryn tua'r
gogledd.
21. Mast
Nebo - mast radio a theledu Arfon - uchder 601
metr.
22. Golygfa i'r dde (Bae Ceredigion)
a'r gorllewin (Bae Caernarfon). Planhigion, anifeiliaid
ac adar prin.
23. Ardal hynod o gyfoethog mewn
olion cyn hanes - Cytiau Gwyddelod, claddfeydd Oes
y Cerrig, ffermydd o'r Oes Haearn ac yn y blaen.
24. Rhos
yr Unman - yn ôl y chwedl, gwelwyd mintai
o Wyddelod yno (Llychlynwyr o Ddulyn yn fwy na thebyg)
yn gwersylla ger Llyn Nantlle Uchaf gan fugail oedd
efo’i braidd yn ystod rhyw haf flynyddoedd
maith yn ôl ar Fraich
y Llyn yng Nghwm Dulyn. Aeth ar frys am gymorth
gan y fyddin. Yn ôl y sôn, bu i'r milwyr
gloddio ffosydd amddiffynnol yn y lle. Pan nesáodd
yr ysbeilwyr, trechwyd nhw gan y Cymry.
25. Ffordd
y Chwarelwyr - heibio Glangors lle ganed R. Silyn
Roberts, llenor ac arloeswr Cymdeithas Addysg y Gweithwyr
a hefyd gartref y llysieuydd amaethyddol a'r naturiaethwr
Dr. R. Alun Roberts. Gwelir hefyd, yn y pellter,
furddun Bryn Llidiart, man geni ac anneddle Y Prifardd
Mathonwy Hughes.
26.Tanyrallt a
rhai o Chwareli Dyffryn Nantlle.
27. Llwybr Bwlch Cwm Dulyn / "Llwybr y Miners" – arweiniodd i'r chwith at yr hen waith manganîs, ac i'r dde at yr hen weithfeydd
copr a phlwm yng Nghwm Pennant dros Fwlch Cwm Dulyn.
O'r llwybr hwn "Ganllath o Gopa’r Mynydd" gwelodd R. Williams Parry a’i ddau gyfaill 'Y Llwynog', a anfarwolwyd yn y soned.
28. Cae Du. Tŷ Henry
Robert Parry, un o delynorion disgleiriaf ei
oes 'a ddysgodd ei grefft gan Hen Delynorion Cymru'.
Ei ddysgybl enwocaf
oedd ei nai John Parry Ddall, ganed ym Mryn Cynan tua
1710, (er ceir Bryn Cynan Pontllyfni, ei noddwyr cyntaf
oedd Teulu Griffiths o'r Ystad Cefn Amwlch, Bryn Cynan,
Nefyn. Prynason ei delyn deires cyntaf). Yr oedd yn
delynor i Sir Watkin Williams Wynn, ac i Dywysog Cymru
wedyn; edmygwyd ei ddawn gerddorol yn fawr gan y cyfansoddwr
Handel a fo hefyd oedd yr ysbrydoliaeth i'r bardd saesneg
Thomas Grey wrth ysgrifennu 'The Bard'. Bu farw yn
Rhiwabon yn 1782.
29. Pen
Pelyn. Mewn tŷ gerllaw trigai 'Martha'r
Mynydd'. Haerodd ei bod hi mewn cysylltiad â'r
'Anweledigion', ond twyll oedd y cyfan.
Manylion y Cylchdeithiau
• 4-12-4. Taith gymharol hawdd, gwastad.
• 1-2-3-4-5-6-7-8-1. Cylchdaith Nebo
a Nasareth.
• 1-2-3-4-13-24-18-19-8-1. Cylchdaith
o gwmpas Foel y Rhiw.
• 1-6-5-4-13-14-15-16-17-18-19-7-8-1.
Cylchdaith Nebo, Nasareth a Llanllyfni.
• 1-2-3-4-12-25-26-14-13-19-7-8-1.
Cylchdaith y Chwarelwyr.
• 1-23-22-21-20-9-11-10-12-4-3-2-1.
Cylchdaith o gwmpas y mast.
|