Datblygwyd
Dinas yn ei ffurf presennol gydag agoriad y tyrpeg, yn
gyntaf i Bwllheli yn 1805 ac i Borthmadog yn 1810. Mae'r
tafarnau sylweddol, y Mount, sy'n awr yn fwyty Indian,
a Thafarn Hen, sydd yn dŷ preifat rwan, yn elfennau
sydd wedi goroesi o hen drefn y ffyrdd tyrpeg. Pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaernarfon ym 1866 a Rheilffordd
Gul Gogledd Cymru yn 1878 ( Rheilffordd Ucheldir Cymru
o 1922 ymlaen) codwyd tai i gartrefu staff y rheilffyrdd. Mae
Rheilffordd Ucheldir Cymru wedi ei hailagor fel atyniad
twristaidd ac fel cludiant i deithwyr ac wedi cyrraedd
Rhyd Ddu. Y nod yw ail-agor y lein hyd at Borthmadog.
Dan gymhelliad daer Teulu Niwbwrch ychwanegwyd y
meindwr ar gapel Glanrhyd.
Yn ystod yr 20fed ganrif bu peth datblygu maestrefol.
Llun: Tafarn Y Mount gynt sydd
erbyn heddiw yn fwyty Indian.
|