Y
mae pentref Aberdesach ei hunan yn cynnwys adeiladau o'r
20fed ganrif, efo canran
sylweddol o dai haf. Mae
rhes o 'gabanau glan-y-môr'
yn ymestyn i'r gogledd o Afon Desach tuag at Faen Dylan,
un o'r safleoedd niferus, cyfagos y sonnir amdano ym Mhedwaredd
Gainc y Mabinogi - craig anferth ar ddistyll trai ond nad
yw byth yn mynd o'r golwg hyd yn oed ar y stormydd mwyaf. Mae
Fferm Pennarth yn agos i Aberdesach
- Pennardd fel y cyfeirir ato yn Y Mabinogion. Mae rhagor o
wybodaeth ar gael am y pwnc yma o dan y penawdau "Cromlechi" a "Llenyddiaeth
Gymraeg Gynharaf" ar dudalennau Hanes
Clynnog Fawr y wefan hon. Mae'r
nifer o dai fferm mawr sydd wedi eu codi yn yr ardal
yn dyst i oruchafiaeth Ystad Glynllifon yn natblygiad
yr arfordir yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Ar draeth Aberdesach, roedd glo yn cael ei gludo i fewn
gan longau ac yn cael ei ddadlwytho yn Yr Iard. Nepell
oddiwrth Tŷ'n y Coed, mae yna odyn galch. Roedd rhesiad o dai pysgotwyr a enwid Y Borth ger y
môr rhwng Aberdesach a Chlynnog, ond erbyn heddiw
maen't wedi disgyn a'r môr wedi erydu'r tir.
|