Pentref o'r 19 ganrif yw Y Groeslon a enwyd ar ôl
y fan lle mae'r ffordd o Landwrog i Foel Tryfan (Lôn
Cefn Glyn) yn croesi'r ffordd o Borthmadog i Gaernarfon
a rheilffordd Nantlle a'i holynwyr. Ymddengys mai gefail
a thŷ tafarn / gorsaf reilffordd oedd yr adeiladau
cynharaf, a sefydlwyd yn y 1840au neu'r 50au, ac a ddilynwyd
yn fuan wedyn gan adeiladau eraill ar hyd y ffordd. Yn
y 1870au a'r 1880au codwyd adeiladau mwy sylweddol
yn unol â dymuniadau stad Niwbwrch, a hynny ar
Lôn Cefn Glyn yn bennaf.
Llun: Tafarn Pen Nionyn a Swyddfa'r
Post yn y cefndir.
|