Datblygodd
y pentref hwn o gwmpas safle Cristnogol cynnar. Noddwyd
yr eglwys bresennol (a ddyluniwyd, fel y rhan fwyaf o'r
pentref gan Kennedy yn 1860) gan y teulu Newborough.
Codwyd y gwesty Tŷ'n Llan (Harp) yn nechrau'r 19
ganrif. Mae’n debyg y cafodd y rhes o dai uncorn
ar y ffordd o Landwrog i'r brif ffordd A499 eu codi rhywbryd
wedi 1823. Datblygwyd
tai diweddar i gyfeiriad y gorllewin. Er ei fod yn bentref
stad i Glynllifon, heb hyd yn oed Gapel Anghydffurfiol,
mae naws y lle yn Gymraeg a Chymreig. Oherwydd
ei leoliad strategol pwysig ar ben gorllewinol Afon Menai,
codwyd Fort Belan yn 1776 rhag ymosodiadau gan Americanwyr
neu Ffrancod. Ychwanegwyd y doc yn 1824. RAF
Llandwrog oedd y maes glanio mwyaf yng Nghymru rhwng
1941 a 1945. Datblgwyd Maes Awyr Caernarfon ar ran o’r
safle wedi’r rhyfel. Addaswyd
y cyn ysbyty a safle'r WAAF yn llwyr gan Recordiau
Sain i greu stiwdio a swyddfeydd, ac mae busnes dodrefn
ail-law
yn safle Rhif 1 gynt. Ceir amgueddfa fach yn y maes
awyr.
|