Penygroes
oedd canolbwynt masnach a thrafnidiaeth Dyffryn Nantlle.
Hyd at ddiwedd
y pumdegau ceid marchnad anifeiliaid yma
a gorsaf reilffordd. Erbyn heddiw y prif gyflogwyr
yw’r
ffatri bapur, yr ysgolion lleol (cynradd, uwchradd
a meithrinfa), Gwasg Dwyfor, cartref henoed, y meddygfeydd,
dwy garej, siopau, Antur Nantlle, y llyfrgell, Cymdeithas
Tai Eryri, ac yn y blaen. Wedi ei leoli rhwng y môr a'r mynydd mae gan Benygroes
rywbeth i'w gynnig i bawb - o'r sawl sydd am gadw'n heini
yn y ganolfan hamdden i'r rheini sy'n dewis hamddena
gyda llyfr o'r llyfrgell fodern yng nghanol y pentref.
Mae yma, hefyd, Ganolfan Dechnoleg i'ch galluogi i gysylltu â gweddill
y byd ar y wê gyda'n cysylltiad Bandeang. Ar y gofadail o flaen y Neuadd Goffa ceir un o englynion
R. Williams Parry er cof am y bechgyn a gollodd eu bywydau
yn Rhyfel Mawr 1914-18 (dengys y gwahanol liwiau'r cytseiniaid
yn cyfateb i'w gilydd - dyna beth yw cynghanedd - a dim
ond yn y Gymraeg y ceir y gynghanedd): O Gofadail gofidiau - tad a mam! Tydi mwy
drwy’r oesau Ddysgi ffordd
i ddwys
goffáu Y rhwyg o
golli’r hogiau. Bu’r englynwr a’r bardd John Llewelyn
Roberts yn byw yma. Roedd yn enedigol o Dalysarn.
Yma mae cartref Angharad Tomos y llenor a’r
ymgyrchwraig a cholofnydd wythnosol i’r Herald
Cymraeg; Enid ac Ifor Baines, y ddau yn aelodau o
dîm Glannau Llyfnwy ar Dalwrn y Beirdd ac Enid yn
Olygydd y papur bro Lleu a’r
hanesydd Dewi Jones. Oddi yma hefyd y daw Karen Owen,
Golygydd y cylchgrawn Golwg, hithau’n fardd
a llenor. Ym Mynwent Macpela y claddwyd y dramodydd Gwenlyn
Parry. Ar y ffordd i Frynaerau, ger yr afon Llyfni, mae
hen ffatri wlân. Mae llwybr yn mynd ati o Lanllyfni
hefyd, drwy lôn Lleuar-fawr. Huw Jones, Garndolbenmaen,
a ddechreuodd y ffatri hon.
|