Sarn
Wyth-ddwr oedd yr enw gwreiddiol ar y sarn a groesai yr
afon Llyfni gerllaw Tre-grwyn. Datblygodd y pentref yn y 18fed ganrif yn ardal Pen-y-Bont
- roedd y tir gynt yn rhan o Fferm Coedmadog. Oherwydd llwyddiant chwarel lechi Cloddfa'r Coed rhwng
1850 a 1870 ehangodd y pentref yn gyflym. Codwyd tai ar
gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd ar ochr y bryn ar hyd Hen
Lôn y Tyrpeg (1840au) a Rheilffordd Nantlle. Cwympodd rhan o'r ffordd rhwng Talysarn a Nantlle i mewn
i Chwarel Dorothea yn 1924, ac yn fuan wedyn, gwnaed ffordd
fawr sy'n dilyn ochr ddeheuol y Dyffryn, lle roedd Llyn
Nantlle Isaf gynt. Sychwyd yn Llyn yn raddol yn ystod y 19eg ganrif oherwydd
problemau yn y chwareli, gan fod y dŵr mor agos at
y tyllau dyfnion. Ond wedi damwain erchyll yn 1884 yn Nhwll
Ffeiar, cafodd afon Llyfni ei chamlesu. Mae Talysarn yn enw cyfarwydd ar hyd a lled Cymru oherwydd
dau ddyn enwog - Robert
Williams Parry (R Williams Parry)- y bardd, a'r Parchedig
John Jones - un o'r Methodistiaid mwyaf dylanwadol o'i
oes. Yn Rhiwafon, 37 Ffordd yr Orsaf y ganed R Williams
Parry, (1884-1956). Ceir llechen ar y mur yn
dynodi hynny ac os eir ymlaen ar hyd Ffordd yr Orsaf
gwelir Cofeb Genedlaethol iddo a gynlluniwyd gan R.H.
Gapper. Siâp coeden sydd i’r rhan isaf ohoni i
ddynodi Y Lôn Goed, un o gerddi enwocaf y bardd. Yn Nhynweirglodd ger Y Lôn Ddwr y ganed J. Selwyn
Lloyd, yr athro a’r nofelydd cynhyrchiol
i blant. Heibio i Eglwys Sant Ioan gwelir Overdale (y pumed ty
ar y chwith) a fu yn ei dro yn gartref i Hywel
Cefni, Mary King Sarah a’r Parchedig
Morgan Griffith. Gerllaw Gwesty Dyffryn Nantlle, yn Cloth Hall, yr oedd
cartref Gwilym R. Jones a enillodd y goron,
y gadair a’r fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol
Cymru. Treuliodd bron i ddeugain mlynedd fel Golygydd Y
Faner a chyfansoddodd nifer o emynau a cherddi enwog
iawn. Ganed Y Parchedig Idwal Jones, awdur
y gyfres radio enwog SOS, Galw Gari Tryfan, yn rhif 7 Cavour
Terrace, Talysarn. Pregethwr, darlledwr ac awdur poblogaidd
iawn a chymeriad gwreiddiol. Cysylltir Talysarn ag un o bregethwyr mawr Cymru, Y
Parchedig John Jones,1796-1857. Daethpwyd i
alw Y Capel Mawr yn Gapel John Jones Talysarn. Brodor
o Ddolwyddelan ydoedd. Daeth i weithio i Chwarel Dorothea
a phriodi â Fanny Edwards yn fuan wedyn. Pan agorodd
hi siop yn y pentref gallodd yntau roi’r gorau
i’w waith yn y chwarel a chanolbwyntio ar bregethu.
Yr oedd hefyd yn gerddor a chyfansoddodd y dôn Llanllyfni.
Yr oedd yr enwog George M.Ll. Davies a’i frawd
J. Glyn Davies (Cerddi Porthdinllaen) yn wyrion iddo.
Ysgrifenwyd Cofiant iddo gan Owen Thomas, Lerpwl (taid
Saunders Lewis) a ystyrir yn glasur. Mae’n cynnwys
nid yn unig hanes gyrfa John Jones ond hefyd ddadleuon
diwinyddol Cymru yn y cyfnod hwnnw ac astudiaeth o nodweddion
pregethu’r Methodistiaid Calfinaidd. Yn Nhanrallt, rhwng Talysarn a Llanllyfni y mae Arfryn
a fu’n gartref i’r nofelydd plant, Alwyn
Thomas, cefnder Mathonwy Hughes. Ef oedd awdur
Teulu’r Cwpwrdd Cornel ac yn y blaen.
Mwy o wybodaeth:
»» Bwletin
Talysarn a Nantlle
»» Clwb
Pel Droed y Talysarn Celts
»» Hanes
Talysarn
»» Planning for Real |