Mae Llanllyfni yn un o'r pentrefi hynaf yng Ngwynedd.
Roedd y pentref yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt
gan mai yno yr arhosai’r goets fawr i gyfnewid
ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon.
Yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar
eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle
o’r enw Penbryn Moch.
Llun: Pentref
Llanllyfni.
Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent.
Yno y claddwyd John Jones Talysarn, ac y dywedir i’w
gynhebrwng ymestyn yr holl ffordd o Dalysarn i Lanllyfni.
Yn ôl Baner ac Amserau Cymru, Awst 26 1857, yr
oedd yno 8 o feddygon, 65 o weinidogion a phregethwyr
- bob yn dri; 70 o flaenoriaid - bob yn bedwar; 200 o
gantorion a chanotoresau - bob yn chwech; oddeutu 4,000
o feibion a merched - bob yn chwech, (ychwanegwyd efallai
ddwy fil at y nifer hwn ym Mhenygroes, ar y ffordd
i Lanllyfni), yna yr elorgerbyd, yna y perthynasau mewn
40 o gerbydau ac ar 15 o feirch. Yr oedd tair arch am
y corff - arch dderw gref, arch fahogani (yn rhodd gan
gyfaill iddo o Gaernarfon), ac arch o gerrig nadd o’r
chwarel. Roedd Llanllyfni yn ganolfan siopa bwysig a dyma’r
siopau oedd yno yn yr 1890au: Siop Uchaf, Siop Liverpool House, Siop London House
(siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y
rhain), Siop Rhedyw (blawdiau), Y Llythyrdy (hefyd yn
gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), Siop Manchester
House (siop ddillad fawr), Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley
House (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House
cyn iddynt symud i fyw i Compton House), Siop Gruffudd
Jones y Cigydd (cododd dy ar Lôn Coecia yn ddiweddarach
ac fe’i galwodd yn Bod Ruffudd), a Siop Robert
Williams y Cigydd. Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer
o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a
thrigai closciwr yn un o’r tai. Roedd pum ty tafarn yno, sef Barmouth Tavern, Fort Tavern,
Quarrymen’s Arms, King’s Head a Thafarn y
Coecia (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd). Byddai busnes coed llewyrchus gan Harri Morus ym Mron
Turnor. Byddai hefyd yn ymgymryd â gwneud eirch a chodi
tai. Byddai’r Felin yng ngwaelod y pentref. John Jones
a fyddai’n byw yno ac ato ef yr âi pawb â’i
geirch a’i haidd i’w malu. Ty bach gwyngalchog
del fyddai yno yr adeg honno. Dros y ffordd byddai pistyll y pentref lle y deuai merched
Llanllyfni i gael dwr cyn bod sôn am ei bibellu o Gwm
Dulyn. Ond yr Afon Llyfni a fyddai’n troi olwyn
ddwr y felin. Yn uwch i fyny’r afon, rhwng Penygroes a Llanllyfni,
byddai ffatri wlân. Penbryn Ffatri fyddai’r enw
cyffredin arni yr adeg honno ac yno yr oedd John Rowlands
yn byw. Symudwyd y ffatri hon i Glanrafon Bach. Yr oedd
ty yn ei hymyl ac yn uwch i fyny yr oedd tai Bronhwylfa. Yr oedd gwaith llechi yn Nhy Gwyn lle y cynhyrchid llechi â fframiau
pren arnynt ar gyfer ysgolion. Cynhyrchid cerrig nadd
yno yn ogystal ac yn y dyddiau gynt yr oedd yn ganolfan
cynhyrchu eirch. Yr oedd hyn cyn bod sôn am Yr Injan
Grafog, sef gwaith llechi Inigo Jones. Yn ddiweddarach
fe symudodd ef y gwaith hwnnw o’r Ty Gwyn i’r
Groeslon wedi iddo sicrhau lle hwylus yn ymyl yr orsaf. Chwarelwyr oedd y rhan fwyaf o ddynion Llanllyfni a
byddai llond y pentref ohonynt yn cerdded i’w gwaith
bob yn bedwar. Gweithient yn Chwareli Dyffryn Nantlle.
Aent heibio i Gaer Engan a Bryn Castell dros yr Afon
Llyfni a thros Bont y Criwiau. Ond yn ddiweddarach agorwyd
y Lôn Ddwr ac âi’r criwiau mwyaf wedyn heibio i
Danrallt i Chwarel Dorothea a cherddent yr holl ffordd,
haf a gaeaf, ar bob tywydd. Arferid pedoli gwartheg a gwyddau yng Ngefail y Berth
erstalwm ac i fynd yno o Lanllyfni arferid mynd dros
y bont Rufeinig. Aeth y bont honno i ganlyn y lli ym
mhedwar degau’r ugeinfed ganrif ac wedyn roedd
yn rhaid mynd dros Bont y Crychddwr i gyrraedd yr Efail. Pont y Crychddwr yw’r bont rhwng mynwent uchaf
Llanllyfni a’r arwyddbost am Nebo. Ffynhonnell: I Chicago’n
Bymtheg Oed
Hunangofiant Ellen G. Evans
Ty ar y Graig
1981
Mwy o wybodaeth:
»» Hanes
Llanllyfni
»» Clwb
Pel Droed Llanllyfni |